Dadorchuddio cerflun noeth o un o sêr Monty Python ym Mae Colwyn

Roedd Terry Jones yn un o'r chwech a ddechreuodd y grŵp comedi enwog Monty Python
- Cyhoeddwyd
Mae cerflun yn coffáu seren Monty Python, Terry Jones, wedi cael ei ddadorchuddio yn ei dref enedigol, Bae Colwyn, ddydd Sadwrn.
Roedd ei deulu yn hynod gefnogol o'r ymgyrch "Python ar y Prom" - ymgyrch a gododd £120,000 ar gyfer cerflun efydd sy'n portreadu Terry fel yr organydd noeth o'r rhaglen "Flying Circus".
Dywedodd Syr Michael Palin y byddai ei gyd-aelod o Python yn credu ei fod yn "ddoniol iawn".
Bu farw'r actor, yr awdur a'r cyfarwyddwr yn 2020 yn 77 oed o fath prin o ddementia.
Roedd Syr Michael Palin a Terry Gilliam yn bresennol a dywedon nhw ei fod yn "deyrnged wych" a "chafodd e [Terry Jones] ddim y gydnabyddiaeth roedd e'n ei haeddu achos odd e'n ddyn disglair mewn cymaint o ffyrdd".

Mae Syr Michael Palin (chwith) a Terry Gilliam wedi cefnogi'r ymgyrch
Grŵp comedi oedd Monty Python a gafodd ei ffurfio yn 1969.
Roedd yna chwech yn y grŵp ar y dechrau - yn eu plith Terry Jones, Terry Gilliam a Syr Michael Palin.
Cefnogodd dau aelod arall o'r grŵp, John Cleese ac Eric Idle, yr ymgyrch hefyd. Mae'r cerflun nawr yn edrych dros draeth Bae Colwyn.
"Dw i'n gwybod ei bod hi braidd yn hurt," meddai Syr Michael Palin. "Ond o wybod ei fod yn rhywbeth y byddai Terry'n ei hoffi, cerflun chwyldroadol, dw i'n eithaf balch o hynny."
Ychwanegodd na chafodd Terry Jones y gydnabyddiaeth roedd yn ei haeddu gan iddo farw ar ddechrau'r pandemig yn 2020.
"Mae nawr cyfle i bobl ddal i fyny a dweud beth oedden nhw'n ei feddwl am Terry a beth oedden nhw'n ei hoffi amdano.
"Ac roedd yna lawer iawn o hoffter tuag ato...Dw i'n credu bod hynny wedi'i brofi gan y swm o arian gafodd ei gasglu mor gyflym."
Mae Terry Gilliam wrth ei fodd â'r gwaith gan eu bod wedi gobeithio cyfleu'r "Terry go iawn".
Esboniodd mai ei ben-ôl yw'r pwynt mwyaf sgleiniog a bod hynny'n fwriadol.
"Rydyn ni wedi gweld y gwaith yn mynd rhagddo ac mae'n wych".
Enwogion byd-eang yn cefnogi'r ymgyrch
Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi hyrwyddo'r ymgyrch mae Emma Thompson, Steve Coogan a Suzy Eddie Izzard.
Daeth rhoddion o bob cwr o'r byd, ac fe gyrhaeddon nhw'r targed o £120,000 o fewn chwe mis yn unig.
Dywedodd Sally Jones, merch Terry Jones, y bydd unrhyw arian ychwanegol yn cael ei rannu rhwng Ymddiriedolaeth Gelf Conwy a The National Brain Appeal, sy'n helpu pobl â dementia prin.

Mae Nick Elphick wedi bod yn gweithio ar y cerflun ers bron i flwyddyn a hanner
Y cerflunydd Nick Elphick o Landudno aeth ati i greu'r dyluniad ar ôl siarad âtheulu Terry Jones.
Dywedodd mai'r rhan anoddaf oedd dangos cymeriad mawr ei bersonoliaeth, tra'n sicrhau bod ei wên yn "berffaith i'r teulu".
Mae'r cerflun maint go iawn yn dangos Terry yn noeth, yn gwisgo tei sy'n fflapio - mae ganddo wallt gwyllt ac mae'n gwenu fel yr organydd roedd e'n ei bortreadu.
Mae'r organ hefyd yn cynrychioli ei ddesg ysgrifennu - y cyfan yn portreadu ei yrfa amrywiol.
Mae hyn yn cynnwys ei waith arall - er enghraifft ei lyfrau am hanes yr Oesoedd Canol.
Dywedodd Nick Elphick ei fod yn waith anodd a'i fod yn teimlo dan bwysau: "Rwy'n berffeithydd felly dydw i byth yn hollol hapus, ond rwy'n gwybod fy mod wedi rhoi popeth iddo, gan weithio diwrnodau hir iawn ers bron i flwyddyn a hanner, felly gobeithio y bydd pobl yn ei hoffi."
Datgelu dyluniad cerflun i seren Monty Python yn y gogledd
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
Perfformiodd, cydysgrifennodd a chyfarwyddodd Terry Jones ddwy ffilm Monty Python: The Life of Brian a The Meaning of Life.
Cydgyfarwyddodd The Holy Grail gyda Terry Gilliam.
Cydysgrifennodd hefyd y gyfres Ripping Yarns gyda Michael Palin, ar ôl i'r ddau gyfarfod ym Mhrifysgol Rhydychen.
"Terry oedd y teipydd cyflymaf o'r ddau ohonom ni, felly fe wnaeth y rhan fwyaf o'r teipio a fe hefyd oedd yn gwneud y coffi!," medd syr Michael.
Dywedodd mai Terry fyddai'r "person olaf a fyddai'n dymuno cael cerflun ohono'i hun", ond y byddai'n "gwneud eithriad" ar gyfer y dyluniad hwn gan y byddai'n hoffi pa mor ddoniol yw e.
Er bod Terry a'i deulu wedi symud i Surrey pan oedd yn bedair a hanner oed, fe gadwodd gysylltiadau â Bae Colwyn, gan ddod yn noddwr Theatr Colwyn a chefnogi ei hadnewyddu yn 2011.
Dywedodd Nick Elphick ei fod yn gobeithio y bydd y cyhoedd yn dangos diddordeb yn y cerflun: "Bydd pobl yn gallu ei fwynhau'n llwyr, a bydd yn creu lluniau eiconig, yn enwedig gyda'i ben ôl mawr!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.