Crynodeb

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 16:54 GMT 17 Tachwedd

    Diolch am ddilyn ein llif byw.

    Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Cyllideb Derfynol ar gyfer 2027-28 ar 16 Chwefror 2027, gyda phleidlais ar y Cynnig Cyllideb Derfynol ar 23 Chwefror 2027.

  2. Beth sydd yn y fantol?wedi ei gyhoeddi 16:49 GMT 17 Tachwedd

    Rydyn ni wedi clywed mwy am y cynlluniau gwario y prynhawn 'ma, ond maen nhw'n ddibynnol ar gael eu cefnogi gan fwyafrif o aelodau'r Senedd mewn pleidlais.

    Felly beth fydd yn digwydd os na fydd modd cytuno ar y gyllideb cyn dechrau’r flwyddyn ariannol?

    Os na fydd y Senedd yn pasio penderfyniad ar y Gyllideb cyn dechrau’r flwyddyn ariannol (sef 1 Ebrill), yn gychwynnol, dolen allanol dim ond 75% o’r gyllideb a gafodd ei hawdurdodi i’w defnyddio yn y flwyddyn ariannol flaenorol fydd ar gael.

    Bydd y ffigwr hwn yn cynyddu i 95% os na fydd cytundeb, dolen allanol erbyn diwedd mis Gorffennaf.

    Fodd bynnag, gellir cyflwyno Cynnig Cyllidebol Blynyddol a chynnal dadl arno yn y Senedd yn ystod y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn berthnasol iddi; felly, yn ddamcaniaethol, byddai modd pasio'r gyllideb ar gyfer 2027-28 ar ôl 1 Ebrill 2027, pe na bai'r Senedd wedi cytuno ar gyllideb erbyn y pwynt hwnnw.

    Mae cyllidebau cyrff sy'n cael eu hariannu'n uniongyrchol fel Swyddfa Archwilio Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiwn y Senedd, a Chomisiwn Etholiadol Cymru hefyd wedi’u cynnwys yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol, dolen allanol.

    Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael y rhan fwyaf o’u cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn ôl y gyfraith, rhaid iddynt bennu eu cyllidebau a’u treth gyngor cyn 11 Mawrth, dolen allanol yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae’r gyllideb yn berthnasol iddi.

  3. Dim digon i ddatrys 'argyfwng' addysg bellach - undebwedi ei gyhoeddi 16:43 GMT 17 Tachwedd

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae’r heriau ariannol sy’n wynebu prifysgolion wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn.

    Cyhoeddiad gan Brifysgol Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf am doriadau pellach oedd yr enghraifft ddiweddaraf o hynny.

    Mae Undeb y Prifysgolion a’r Colegau (UCU) yn dweud na fydd setliad "fflat” i Medr, sy’n ariannu addysg uwch ac addysg bellach, yn helpu i ddatrys yr “argyfwng”.

    Mae’r Dirprwy Weinidog Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell, wedi dweud ei fod yn ystyried cynyddu ffioedd dysgu prifysgolion o fis Medi, a fyddai’n dod â mwy o incwm i’r sector, ond mae’r problemau’n llawer dyfnach.

    Mae colegau addysg bellach hefyd yn galw am fwy o arian, gan ddweud nad oes ganddynt ddigon i gynnig lle i bob darpar fyfyriwr.

    Mae’r ddadl honno’n debygol o gael sylw ar ddiwrnod cyhoeddi adroddiad mawr ledled y DU am bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).

  4. 'Dewisiadau gwleidyddol San Steffan yn cyfyngu'wedi ei gyhoeddi 16:37 GMT 17 Tachwedd

    Daw'r ddadl i ben gyda geiriau y Gweinidog Cyllid Elin Jones: "Nid dyma'r gyllideb yr hoffwn fod wedi'i chyflwyno heddiw, ond dyma'r gyllideb y mae'n rhaid i mi ei chyflwyno. Mae'r lle i symud o fewn cyllideb dynn yn gyfyngedig.

    "Yn wir, mae dewisiadau gwleidyddol a wneir yn San Steffan yn cyfyngu ar y dewisiadau gwleidyddol y gallwn ni eu gwneud yma yng Nghymru, ac ar ran pobl Cymru.

    "Un dewis sydd ar gael i bob un ohonom yn y siambr hon yw cydweithio dros yr wythnosau nesaf i adeiladu ar y gyllideb ddrafft hon, i sicrhau bod ein blaenoriaethau yn llywio ein penderfyniadau, ac i brofi gwir werth partneriaeth."

  5. Amaethyddiaeth, twristiaeth a marchnatawedi ei gyhoeddi 16:27 GMT 17 Tachwedd

    Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, yn dweud bod y gyllideb amaethyddiaeth "yn edrych fel ei bod hi'n mynd i gael ei thorri". Mae'n rhybuddio bod yr economi wledig "yn dibynnu'n fawr ar y gyllideb ffermio a'r gefnogaeth sy'n cael ei ddarparu drwy gyllideb ffermio Llywodraeth Cymru".

    Mae Millar hefyd yn codi pryderon ynghylch "toriad yn y gyllideb twristiaeth a marchnata" – rhywbeth y mae'n ei ddisgrifio fel rhywbeth "annymunol iawn" – gan fod "Cymru yn dibynnu'n drwm ar y sector twristiaeth".

    Mae Elin Jones yn ymateb: "Cyfeiriodd Darren Miller at y gostyngiad yng nghyllideb amaethyddiaeth a chyllideb twristiaeth. Mae esboniadau ar gyfer rhai o'r newidiadau hynny, a bydd y broses graffu yn galluogi i hynny gael ei amlygu."

  6. 'Codi cwestiynau difrifol i fusnesau'wedi ei gyhoeddi 16:18 GMT 17 Tachwedd

    Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn dweud bod y gyllideb yn "codi cwestiynau difrifol" am ddyfodol cymorth i fusnesau.

    Mae haneru cyllid Busnes Cymru a "thoriadau pellach i gynlluniau cefnogaeth" yn "bryder sylweddol ar adeg pan mae twf yn economi Cymru yn wan", meddai Joshua Miles o'r grŵp.

    Dywedodd bod asesiad y llywodraeth ei hun yn rhagweld yr effaith ar fusnesau bach a chanolig, ac er bod "potensial i wneud gwahaniaeth" gydag asiantaeth ddatblygu newydd, dywedodd bod y £22m fydd ar gael i'r corff yn "rhy isel o lawer".

  7. 'Cyfiawnder hinsawdd'wedi ei gyhoeddi 16:08 GMT 17 Tachwedd

    Mae Aelod o'r Senedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, yn croesawu mesurau yn y gyllideb i fynd i'r afael â thlodi plant, buddsoddiad mewn gofal plant, a'r nod o symud mwy o ofal i'r cymunedau.

    O ran yr olaf, fodd bynnag, dywed fod angen gweld sut y byddai'n cael ei ariannu.

    Dywed Dodds ei bod wedi'i siomi'n fawr o weld bod y cyllid ar gyfer rhaglen plannu coed 'Maint Cymru' yn Uganda yn dod i ben.

    "Mae'n dangos beth rydym yn sefyll drosto – mae'n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd," meddai, gan ychwanegu y bydd y grant yn cael ei ddileu yng nghanol y tymor plannu, gan adael "neb wedi'i dalu i ofalu am" y planhigion ifanc.

    Mae mwy na 25 miliwn o goed wedi cael eu plannu o dan y cynllunFfynhonnell y llun, Kalaz Media
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae mwy na 25 miliwn o goed wedi cael eu plannu o dan y cynllun

  8. 'Achos dros gynyddu’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol'wedi ei gyhoeddi 15:57 GMT 17 Tachwedd

    Mae cynghorau wedi ymateb i'r gyllideb ddrafft, sy’n cynnwys cynnydd o 2.8%, sef £176m, yn y grant craidd i gynghorau.

    Dywed Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod hynny "gryn dipyn yn llai na’r £554m o bwysau ariannol ychwanegol y disgwylir i gynghorau ledled Cymru eu hwynebu y flwyddyn nesaf.

    "Bydd yn rhaid i gynghorau ddod o hyd i’r £378m sydd ei angen i lenwi’r bwlch cyllidebol drwy gyfuniad o gynyddu’r dreth gyngor, lleihau nifer y swyddi a thorri gwasanaethau.

    "Bydd CLlLC yn parhau i gyflwyno’r achos dros gynyddu’r cyllid ar gyfer llywodraeth leol rhwng nawr a chyhoeddi’r gyllideb derfynol y flwyddyn nesaf."

    gwasanaethau cynghorau
  9. 'Dylid dileu'r dreth trafodion tir ar brif breswylfeydd'wedi ei gyhoeddi 15:42 GMT 17 Tachwedd

    Mae llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Sam Rowlands, yn galw ar weinidogion Plaid Cymru i ddileu'r dreth trafodion tir ar brif breswylfeydd – fersiwn Cymru o dreth stamp.

    Mae hefyd yn annog gweinidogion i osod terfyn ar godiadau "gormodol" yn y dreth gyngor.

    Byddai polisïau o'r fath yn "trawsnewid pethau'n wirioneddol", meddai, yn "newid go iawn, a rhoi mwy o arian ym mhocedi gweithwyr sy'n gweithio'n galed yma yng Nghymru", ychwanega.

  10. Beirniadu Reform am eu habsenoldebwedi ei gyhoeddi 15:36 GMT 17 Tachwedd

    Mae Huw Thomas o'r Blaid Lafur yn beirniadu Reform am eu habsenoldeb.

    "Dyma, yn ôl pob tebyg, y ddadl bwysicaf a gawsom yn y siambr hon hyd yma," meddai.

    "Mae traean o'r siambr, sef Reform UK i gyd... yn absennol. Mae hynny'n warth, rhaid dweud."

    Dywed Thomas ei fod yn "siomedig" na ddyrannwyd "dim ceiniog" ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, er gwaethaf y cytundeb i sicrhau £60m eleni drwy'r cytundeb cyllideb atodol gyda'r Blaid Lafur.

    Dywed na fydd rhai cynghorau yn gallu ymdopi â'r galw cynyddol gyda chynnydd mewn cyllid o "ddim ond 2.5%".

    Huw ThomasFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  11. Cronfa newid hinsawdd yn 'gam cyntaf da'wedi ei gyhoeddi 15:30 GMT 17 Tachwedd

    Steffan Messenger
    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Wedi tanau gwyllt dinistriol yr haf a rhybuddion i baratoi at berygl uwch o lifogydd dros y misoedd nesaf, mae'r gyllideb yn cynnwys cronfa gwerth £55m ar gyfer addasu at effeithiau newid hinsawdd.

    Mae'r Blaid Werdd yn hawlio'r clod am y buddsoddiad newydd, tra bod adroddiad y llywodraeth yn egluro'r gyllideb yn canmol "ymgysylltu cynnar ac adeiladol" gyda dau aelod y blaid yn y Senedd.

    Roedd sefydlu cronfa o'r fath yn un o alwadau mawr y sector amgylcheddol hefyd.

    Dywedodd elusen bywyd gwyllt WWF Cymru bod y cyhoeddiad yn "gam cyntaf da" ond bod "graddfa'r argyfwng hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu yn golygu bod angen i ni weld buddsoddiad ychwanegol sylweddol dros nifer o flynyddoedd".

  12. Sesiwn wedi ailddechrauwedi ei gyhoeddi 15:28 GMT 17 Tachwedd

    Mae'r sesiwn wedi ailddechrau, nid yw Mike Hedges wedi dychwelyd i'w sedd.

  13. Atal y ddadl am y trowedi ei gyhoeddi 15:13 GMT 17 Tachwedd

    Cafodd y trafodion eu hatal ar ôl i Mike Hedges o'r Blaid Lafur ymddangos yn sâl yn y siambr.

    Cafodd y ddadl ei hatal wrth i Aelodau o'r Senedd, gan gynnwys y Ceidwadwr Natasha Asghar, ei helpu i adael siambr y Senedd ar ei draed.

    Mae Mike Hedges yn Aelod o'r Senedd dros y Blaid Lafur ar gyfer Gŵyr Abertawe.

  14. 'Y gwrthbleidiau pwysig' yn y siambrwedi ei gyhoeddi 15:11 GMT 17 Tachwedd

    Cemlyn Davies
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Wrth ddechrau ei datganiad fe wnaeth Elin Jones gyfeirio at absenoldeb aelodau Reform yn dilyn eu penderfyniad i barhau â'u boicot.

    Go brin bod unrhyw weinidog cyllid arall wedi cyflwyno cyllideb heb fod y brif wrthblaid yn bresennol, meddai.

    Ond, ychwanegodd â gwên, "mae'r gwrthbleidiau pwysig yma".

    Jôc fach ddiniwed? Efallai. Neu efallai roedd y sylw'n fwy dadlennol na hynny achos y gwir amdani yw y bydd angen i Elin Jones ddod i gytundeb gyda phlaid arall os am gael sêl bendith y Senedd i'w chyllideb a does neb yn disgwyl i'r cytundeb yna ddod gyda Reform.

  15. Y GIG, llywodraeth leol a gofal plantwedi ei gyhoeddi 15:08 GMT 17 Tachwedd

    Dywed Elin Jones fod £500m ychwanegol ar gael ar gyfer gwariant dydd i ddydd yn y GIG, a fydd yn cynyddu o £200m arall yn 2028-29. Dywed fod hyn yn gynnydd o 4.2% ar gyfer iechyd.

    Ychwanega y bydd y setliad i gynghorau yn cynyddu o £176m – cynnydd o 2.8%. Bydd pob cyngor yn derbyn o leiaf 2.5% o gyllid ychwanegol.

    Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £75m ychwanegol y flwyddyn nesaf, a £11m yn 2028-29, ar gyfer ei chynlluniau gofal plant cyffredinol. Mae gweinidogion Plaid Cymru am gyflwyno gofal plant am ddim i fabanod mor ifanc â naw mis oed cyn 2030 – nid oes amserlen fanwl wedi’i nodi eto.

    GIGFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae cynnydd o 4.2% ar gyfer y gwasanaeth iechyd

  16. 'Gweithio'n agos gyda Phlaid Werdd Cymru ar ddwy elfen o'r gyllideb'wedi ei gyhoeddi 15:02 GMT 17 Tachwedd

    Dywed Elin Jones ei bod wedi gweithio'n agos gyda Phlaid Werdd Cymru ar ddwy elfen o'r gyllideb hon.

    Mae'n cyhoeddi Cronfa Cadernid Hinsawdd, "a fydd yn cefnogi newid sylweddol o ran ymyriadau sy'n seiliedig ar natur i liniaru risgiau sy'n deillio o dywydd eithafol, megis llifogydd, sychder a thanau gwyllt".

    Bydd y llywodraeth hefyd yn buddsoddi mewn clybiau ceir trydan cymunedol, fel rhan o fuddsoddiad o £30m mewn seilwaith ar gyfer cerbydau trydan.

    "Bydd hyn yn lleihau allyriadau trafnidiaeth ac yn cefnogi'r newid tuag at economi sy'n wyrddach ac yn fwy cynaliadwy" meddai'r gweinidog.

    Mae Anthony Slaughter wedi arwain y Gwyrddion yng Nghymru ers 2018
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Anthony Slaughter wedi arwain y Gwyrddion yng Nghymru ers 2018

  17. Comisiynwyr i chwilio am ffyrdd o rannu swyddogaethauwedi ei gyhoeddi 14:54 GMT 17 Tachwedd

    Dywed Elin Jones hefyd: "O ran gwariant rhyngwladol, bydd y llywodraeth hon yn adolygu ei heffeithiolrwydd o ran hyrwyddo economaidd a dinasyddiaeth fyd-eang. Bydd rhai rhaglenni'n dod i ben a bydd blaenoriaethau newydd yn dod i'r amlwg.

    "O ran tlodi plant, sydd wedi aros ar lefelau uchel iawn, byddwn yn ailgynllunio ac yn ceisio cyflwyno taliad cymorth uniongyrchol trwy gynllun peilot.

    "Bydd angen i lawer o sefydliadau cyhoeddus ddefnyddio cyfle'r gyllideb hon i weithio'n fwy effeithiol fel sefydliadau annibynnol, neu, yn achos rhai, er enghraifft, ein Comisiynwyr, wrth chwilio am ffyrdd o rannu swyddogaethau a chostau ystafell gefn."

  18. Dim codi trethiwedi ei gyhoeddi 14:47 GMT 17 Tachwedd

    Dywed y gweinidog cyllid Elin Jones: "Mae toriad o 0.5% mewn termau real i’n cyllideb adnoddau yn 2027-28, a thoriad o 10% mewn termau real i’n cyllideb gyfalaf rhwng nawr a 2029-30.

    "Mae hyn yn digwydd yn erbyn cefndir o ansicrwydd byd-eang sy’n parhau i effeithio ar dwf a chwyddiant ledled y DU.

    "Heb gynnwys y blynyddoedd Covid, dyma’r sefyllfa waethaf o flwyddyn i flwyddyn ers i George Osborne – pensaer y polisi cyni – fod yn Ganghellor yn 2014-15.

    "Mae hyn wedi golygu bod yn rhaid i’m cyd-weinidogion wneud penderfyniadau anodd iawn.

    "Wrth gwrs, mae dewisiadau wrth bennu cyllidebau. Gallai Canghellor y DU fod wedi gwneud dewisiadau i gynyddu gwariant cyhoeddus er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus rhag toriadau mewn termau real, a thrwy hynny gynyddu grant bloc Cymru. Dewisodd beidio â gwneud hynny.

    "Roedd dewisiadau ar gael i Lywodraeth Cymru hefyd i gynyddu’r swm o arian cyhoeddus sydd ar gael i’w wario, drwy godi trethi. Rydym wedi dewis peidio â gwneud hynny."

    Elin JonesFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  19. Dadl ar ddatganiad: Cyllideb ddrafft 2027-28wedi ei gyhoeddi 14:39 GMT 17 Tachwedd

    Mae'r aelodau nawr yn troi at ddadl ar gyllideb ddrafft 2027-28.

    Cofiwch fe allwch chi wylio'r sesiwn drwy bwyso'r botwm ar frig y dudalen.

  20. Cynllun pensiwn gweithwyr y pyllau glowedi ei gyhoeddi 14:34 GMT 17 Tachwedd

    Daeth y cwestiwn olaf yn y sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog gan Lyn Ackerman o Blaid Cymru, ynglŷn â chynllun pensiwn gweithwyr y pyllau glo.

    Croesawodd Rhun ap Iorwerth fwriad Llywodraeth y DU i ddosbarthu gwarged y cynllun – gwarged sydd heb ei ryddhau ac nad yw wedi’i rannu â chyn-lowyr – ond nododd nad oes amserlen bendant ar gyfer hynny.

    Gofynnodd Ackerman a fyddai’n ysgrifennu at y canghellor a phrif weinidog y DU i roi pwysau arnynt; dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn fodlon gwneud hynny.