Ateb y Galw: Heulwen Beasley Park

  • Cyhoeddwyd
Heulwen Beasley ParkFfynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park

Yr arbenigwr dysgu Heluwen Beasley Parks sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Meggan Lloyd Prys yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Heulwen ei geni a'i magu yn Sir Gaerfyrddin, a mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Mae'n arbenigwr dysgu a datblygu sy'n gweithio i Senedd Cymru.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Edrych ar y sêr o fy 'stafell wely yn aros i weld sled Siôn Corn yn hedfan trwy'r awyr. Bues i'n aros yno drwy'r nos!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Bues i a fy ngŵr yn teithio o amgylch Seland Newydd a mi wnaethom ni ffeindio lle ar bwys traeth i barcio'r camperfan am y noswaith.

Aethon ni am dro ar hyd yr arfordir a sgwrsio gyda physgotwyr lleol Māori. Dwi'n cofio edrych mas ar y môr o wely'r camperfan yn yfed gwin coch a bwyta cracyrs a chaws a meddwl bod bywyd yn berffaith yn yr eiliad honno. Roedd yn hollol hudolus.

Ro'n ni hefyd newydd ddyweddïo cwpl o ddyddiau ynghynt a'n teimlo ar dop y byd!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Sensitif, optimistaidd, ystyriol.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dyffryn Tywi. Lle hardd a mae pobl Sir Gâr mor dwym a hamddenol.

Dwi wrth fy modd yn mynd nôl i'r Gorllewin i alw gyda teulu a ffrindiau. Does dim brys o gwbl a dwi'n teimlo'n heddychlon iawn yno.

Dyffryn TywiFfynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park
Disgrifiad o’r llun,

Dyffryn Tywi

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Gwylio arth yn pysgota tra'n bwyta bwyd tu fas i Vancouver. Roedd yr arth yn caru byw! Roedd fel bod mewn ffilm Disney!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dysgwyr yn dod i fy nesg ar ôl anghofio'n llwyr fod gen i sesiwn hyfforddiant i'w ddarparu. Dyw heb ddigwydd eto ers 'ny. Ro'n i'n hollol mortified.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi'n llefen yn aml. Dwi'n caru pobl a'n empathig iawn. Os mae rhywun wedi ypsetio, dwi'n cael fy effeithio a'n teimlo pob dim.

line
line

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Gor-feddwl ac imposter syndrome. Dwi'n dysgu yn ara' deg bod ddim angen cario pwysau'r byd ar fy 'sgwyddau.

Heulwen Beasley ParkFfynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Llyfrau Harry Potter - mae rhywbeth mor nostalgic amdanynt. Podlediadau Dewr, Gwrachod Cymru a Colli'r plot hefyd yn wych!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Mam-gu. Dwi'n gweld ei heisiau hi gymaint. A'i storis. Roedd hi hefyd yn ffan mawr o rannu potel o win coch, yn union fel fi.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n berson mewnblyg. Er mod i'n hoff iawn o bobl, dwi angen gorwedd lawr mewn stafell dywyll ar ôl treulio lot o amser yng nghwmni pobl.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dawnsio, yfed gwin coch a rhoi cwtsh i bawb ar draeth yng Ngorllewin Cymru. A gwylio'r machlud haul.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y diwrnod gwnes i briodi fy ffrind gorau!

Diwrnod priodas HeulwenFfynhonnell y llun, Heulwen Beasley Park
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod priodas Heulwen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Prif Weinidog Cymru - jest am un diwrnod.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Huw Clarke

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw
News imageNews image