bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Llyfrau Smot
Smot mewn dwy iaith

Llyfrau dwyieithog ar gyfer teuluoedd dwyieithog

Dydd Iau,Hydref 17, 2002

• Llyfrau Bach Syrpreis Smot
Dydio ddim yn wir na fedrwch chi ddysgu triciau newydd i hen gi!
Yn enwedig os mai Smot ydi'r ci hwnnw!

Erbyn hyn mae plant ar draws y byd wedi gwirioni ar hanesion Smot sy'n cael eu hadrodd mewn 25 o wahanol ieithoedd.

Ond gwasg yng Nghymru - gwasg Gomer oedd y gyntaf i ofyn am yr hawl i greu argraffiadau dwyieithog o'r llyfrau sy'n boblogaidd mewn ieithoedd mor wahanol â’r Arabeg a'r Swedeg.

Caffaeliad mawr

Ac wedi cyrraedd y siopau mae pedwar llyfr cyntaf cyfres ddwyieithog, Llyfr Bach Syrpreis Smot - Gartref-At Home, Yn yr Ardd-In the Garden, Ar y Fferm-At the Farm ac Ar y Traeth-At the Beach.

Meddai Gordon Jones, Golygydd llyfrau Plant y wasg:
"Bydd y llyfrau dwyieithog hyn yn gaffaeliad mawr i rieni di-Gymraeg sy'n awyddus i'w plant fwynhau llyfrau Cymraeg.

"Mae galw cyson gan rieni am ddeunydd i'w cynorthwyo a'u gwneud yn fwy hyderus wrth ddarllen gyda'u plant."

Cymerodd Gomer y cam hwn oherwydd eu bod yn ymwybodol mai plant o deuluoedd di-Gymraeg yw'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n mynychu ysgolion Cymraeg mewn ardaloedd fel y de-ddwyrain.

"Ddechrau Medi gwelwyd miloedd o blant yn cychwyn mewn cylchoedd meithrin ac mae gan y Mudiad Ysgolion Meithrin 800 o gylchoedd Ti a Fi yng Nghymru heddiw," meddai'r wasg mewn datganiad i gydfynd a chyhoeddi y llyfrau.

Mewn siopau mawrion

Mae'r wasg yn ymfalchïo hefyd y gellir prynu llyfrau Cymraeg mewn siopau mawr fel Sainsbury's, Safeway a Tesco y dyddiau hyn a'r gobaith yw y bydd marchnad barod i'r llyfrau dwyieithog newydd yn y lleoedd hyn.

""Y gobaith yw y bydd y rhieni sydd wedi gwneud y dewis pwysig o roi addysg Gymraeg i'w plant yn gweld prynu llyfrau Cymraeg a dwyieithog yr un mor hanfodol â hwylus a gwneud eu siopa wythnosol," meddai'r datganiad.

Mae'r llyfrau, sy'n rhyw bedair modfedd sgwâr, yn £4.50 yr un.

Ebostiwch eich sylwadau chi am lyfrau









Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy