bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llen

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
Adolygiadau
»Llais Llên
Adnabod awdur
Ar y gweill
Llyfrau newydd
Y Siartiau
Sôn amdanynt
Cysylltiadau
Gwenlyn Parry
Y Talwrn
Canrif o Brifwyl

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Clawr y gyfrolBardd sy'n
cusanu
trwy hances


Mae'r cerddi yn y Gymraeg a'r Saesneg ochr yn ochr a'i gilydd yng nghyfrol ddiweddaraf Menna Elfyn

Dydd Iau, Mawrth 22, 2001
• Cusan Dyn Dall gan Menna Elfyn. Bloodaxe.
News image
Adolygiad gan
Katie Jones

Gan ei bod hi'n bum mlynedd ers i Menna Elfyn gyhoeddi cyfrol o farddoniaeth yr oedd hi'n hen bryd inni gael blasu ei danteithion eto.

Dyma ei degfed cyfrol o gerddi a'r drydedd i gynnwys cyfieithiadau Saesneg ochr yn ochr a'r cerddi gwreiddiol.

Cyfieithwyd y cerddi hyn gan bump o lenorion, Joseph P.Clancy, Gillian Clarke, Tony Conran, Elin ap Hywel a Nigel Jenkins.

Cymraeg - a Saesneg?

Cyn codi'r llyfr roeddwn i'n amau y buasai y fersiwn Saesneg yn tynnu fy sylw ac yn amharu ar fy mwynhad. Nid felly y bu hi.

Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi, ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.

Difyr, wedi'r cyfan, yw ystyried dehongliad rhywun arall.

Yn wir, mae tuedd i'r darllenydd fod yn ddigon naïf a thybio y gallai gynnig gair, ymadrodd neu drosiad gwell na'r un a roddir.

Robert Frost a ddwedodd, yn enwog, "Poetry is what is lost in the translation" ond y mae Menna Elfyn yn herio'r meddylfryd hwn.

Mae RS Thomas, a gyfieithodd rai o'i cherddi blaenorol, wedi cynnig barn arall ar gyfieithu barddoniaeth:

"Mae cerdd mewn cyfieithiad fel cusan drwy hances."

Yn ei cherdd Cusan Hances, sy'n un o ddwy gerdd o deyrnged i'r diweddar RS Thomas, mae Menna Elfyn yn pwysleisio'r gred mai pontio ieithoedd - ac felly pobloedd - mae cyfieithu ac nid difetha'r farddoniaeth wreiddiol.

Sylwer, nid yw'r un peth yn wir am grefft y farddoniaeth.

Am be' mae hon yn sôn?

Y byd a'i bethau yw'r teitl mwyaf cywir i ddisgrifio holl themâu Menna Elfyn gan mor eang yw ei gorwelion.

Mae ei chyfansoddi yn wreiddiol ac yn bwerus: cyfoes, ie, ond eto’n hen-ffasiwn; neis.

Mae iaith y cerddi yn llifo'n bwrpasol ac nid yw'r geiriau, fel arfer, yn cael eu gwanhau ar ôl eu trosi.

Ond teimlaf fod cyfleoedd i drosglwyddo'r hiwmor wedi'u colli yn y cyfieithu wrth gadw'n rhy agos at y gwreiddiol.

Mae Menna Elfyn wedi teithio dros y byd yn darllen ei gwaith i gynulleidfaoedd; mae'r llefydd anghysbell y mae hi wedi ymweld â hwy a'r bobl y mae hi wedi eu cyfarfod yn ychwanegu at ei gwaith.

Hawdd yw bod yn genfigennus o'r angerdd yn ei cherddi ac o'i brwdfrydedd.

Ceir cerddi sy'n disgrifio pellafoedd byd; fel Fietnam ac Efrog Newydd gyda Menna yn llwyddo i droi ei sylwadau craff ar y brodorion yn farddoniaeth apelgar.

Mae'n defnyddio natur ac effaith yr elfennau arnon ni i'w hysbrydoli i gyfansoddi.

Wrth ddweud "arnon ni" rwyf yn golygu pobl heddiw a phobl a fu yn yr oesoedd o'r blaen.

Efallai mai dynoliaeth yw’r gair mwyaf addas a phriodol i ddisgrifio y brif thema sy'n treiddio drwy ei gwaith.

Er enghraifft, yn y gerdd Haf yr Hanner Nef dywed,
Mor oesol a'r ysfa i godi cragen,

Yn y gerdd Mai, sy'n dyfynnu o waith Dafydd ap Gwilym, mae'r syniad o eironi'n gryf wrth iddi ddefnyddio'r dail a'r coed, fel Dafydd, ond i greu delwedd wahanol.

Mae elfennau crefyddol a gwleidyddol yn ei gwaith ond annheg fuasai gosod unrhyw label felly arni.

Mae profiadau personol a phoenus y bardd yn amlwg yn y gerdd Lladron Nos Dychymyg sy'n trafod salwch henaint.

Ym maes serch a charu y mae Menna'n rhagori fel y gwelir yn y cerddi Croen ac Asgwrn, Y Galon Goch, Ffynnon a Dim ond Camedd. Teimlir gwirionedd trawiadol yn y gerdd Troedlath Serch,

"Ac mor brin wyf o ddaearyddiaeth dy dynolrwydd.
wrth roi bys a bawd amdanat, gwn mor ddigwmpawd
yw'r galon.
Gwlad anial i'w threfedigaethau ydyw.
(A deallaf mai di-ongl yw meidroldeb: yn begwn gogledd a de, myfi yw'r newyddian sy'n croesi'r ynys i'th ddwyrain. Yna'n araf, araf gropian." )


Felly?

Oherwydd natur y gyfrol hon, mae ei hapêl yn eang - yn wirioneddol fyd-eang. Dyna pam fo Cusan Dyn Dall yn gasgliad mor werthfawr.

Mae nodiadau yng nghefn y llyfr i gynorthwyo'r darllenydd ddeall cefndir y cerddi a'r awdur ei hun.

Bydd cynulleidfa Cusan Dyn Dallyn amrywio o Gymry Cymraeg i ddysgwyr ac i bobl ddi-Gymraeg - sy'n fy atgoffa o eiriau Ezra Pound,

"A great age of literature is perhaps always a great age of translation."

• Ewch yn awr iAdnabod awdur
• Beth yw eich barn chi am y gyfrol hon? Ebostiwch i ddweud
Wythnosau Blaenorol:
News image
Newyddion yr wythnosY llyfrau diweddaraf i gyrraedd y siopau


Gair am airGair am air

Ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur ?



Siart LlyfrauSiart Cymru

Siartiau llyfrau oedolion a phlant



Adnabod AwdurLlais Llên yn holi: awduron yn ateb




Cysylltiadau ar y weLlyfrau ar y We
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol

Archif LlyfrauNôl i'r archif
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi dal ein sylw

Gwenlyn Parry Gwefan i ddathlu bywyd a gwaith Gwenlyn Parry

Sesiynau Gang BangorCliciwch yma i gysylltu a BBC Cymru'r Byd






About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy