Writersroom Cymru- Cip olwg o gwrs preswyl “It’s My Shout”

Anna Symmonds sy’n trafod ei phrofiad o fynychu cwrs preswyl “It’s My Shout” gyda’r Writersroom.

Published: 23 May 2017

Fel awdur sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth sgriptio gyda chwmni cynhyrchu ‘It’s My Shout’, daeth gwahoddiad i mi, ac i 13 arall, i gymryd rhan mewn gweithdy sgript gyda grwp mawreddog y BBC ‘Writers Room’, oedd yn cael ei gynnal yn Roath Lock ym Mae Caerdydd. Bydd dau allan o’r pedwar sgript Cymraeg, a ddewisir gan y tîm yn cael eu cynhyrchu, felly roedd hyn yn siawns go dda o wireddu ein breuddwydion.

Pwrpas y ddau ddiwrnod oedd i ddysgu ac addasu ein gwaith er mwyn eu hail gyflwyno ymhen yr wythnos. Yn ein harwain ni gyda’r dasg oedd Henry Swindell, dyn llawn gwybodaeth a brwdfrydedd am y pwnc. Roedd y profiad yn fy atgoffa o ddyddiau prifysgol wrth wario'r diwrnod yn dadansoddi ffilmiau, a dilyn engreifftiau o'r ffyrdd gorau i asesu ac i wella ein gwaith. Roedd Henry yn anhygoel wrth rannu ei ddoniau, gan gyflwyno i'r fath lefel o fanyldeb yn y dadansoddiad, a thrwy hynny yn rhoi mewnwelediad i’r hanfodion o ysgrifennu sgript.

Y syndod mwyaf oedd y cyfeillgarwch rhwng yr awduron. Roedd yr awyrgylch yn gefnogol a llawn hwyl, heb arwydd o fod yn gystadleuol o gwbwl. Cawsom y cyfle i edrych yn feirniadol ar ein gwaith a chyfaddef ddiffygion, ac hefyd, 'roeddem ni gyd wedi dod ymlaen mor dda. Roedd hyn yn arbennig o wir ar yr ail ddiwrnod pan gawsom ni ‘sweaty-palm-inducing’ one on one’s. Nest Gwenllian, oedd yn edrych dros y sgriptiau, Cynhyrchydd Sgript Pobol y Cwm a Chynhyrchydd Ymgynghorol gyda’r 'Writers Room'. Roedd yn brofiad positif iawn ac yn gyfle am feirniadaeth adeiladol.

Cawsom siawns ar y dydd i nodi'n hegwyddorion a’n mewnbwn personol i fewn i'r sgript (gobeithio) i'w gwella. Mae rhaid i mi ddweud fod y cyfle hwn wedi bod yn anhygoel, gweithgaredd mor syml ac eto mor effeithiol. Tybiaf fod pawb wedi dysgu llawer iawn. Wrth gyfarfod a Rachel ac Usman or 'Writers Room' yn ystod y broses, cawsom hyd yn oed fwy o siawns i drafod y busnes gyda phobl o’r un anian, tîm proffesiynol a oedd mor groesawgar a chefnogol. 'Rwyf yn ddiolchgar iawn o fod wedi cael bod yn rhan o'r holl beth.

Latest blog posts

More blog posts

Search by Tag:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: