Blog Hywel Gwynfryn

Newid aelwyd rhwng yn eil ddydd
Fel  un o sipsiwn  T. Llew Jones yn Tan ar y Comin-' dwi ar y ffordd unwaith eto Fe ail gychwynnodd y teithio ddoe yn ysgol T. Llew Jones, ym Mlaenhoffnant, lle buo ni'n dathlu bywyd a gwaith awdur mwya' poblogaidd plant Cymru.

Dyma englyn ysgrifennwyd gan y Prifardd Idris Reynolds yn arbennig ar gyfer y diwrnod:

Weithiau fe fydd lleisiau'r lli- a'r ogof

O gragen yn codi

A'r môr yn adrodd stori

Y mannau hallt o'i mewn hi.

Yr wythnos nesaf, fe fyddaf yn anelu trwyn y fan las i gyfeiriad y Gogledd, ond yn teithio yn ôl i'r gorffennol yr un pryd, i chwilio am sinemâu'r oes a fu, ac i olrhain peth o'i hanes.

'Pictiwrs Ddoe' fydd enw'r gyfres fydd i'w chlywed yn ystod rhaglen Nia yn y prynhawn, ac fe fydd Mici Plwm, fu'n actio efo Charlie Chaplin, medda nhw, yn ein cychwyn ar ein taith  gan fod ganddo fo ddiddordeb angerddol yn hanes y sinemâu cynnar.

Yn ogystal ag ymweld â sinema Porthmadog, fe fydda i hefyd yn cael hanes 'Papur Dre' - papur Caernarfon a'r cylch a hefyd yn cyfarfod gitarydd o fri sy'n byw yn Llanberis ac wrth ei fodd yn gwneud modelau o awyrennau. Tydi bywyd yn ddifyr.

Os oes 'na straeon difyr yn eich ardal chi, gadewch i mi wybod drwy e-bost hywel@bbc.co.uk

Medlo!
Eisteddfodau Cenedlaethol, Llandeilo, Cwm Rhymni, Cricceth, Rhydaman, Y Bala, Aberafan, Y Rhyl. Be' 'di'r cysylltiad? Cliw? Bro Morgannwg. Ateb? Fe ataliwyd y Fedal Ryddiaeth ymhob un o'r Eistedfodau yna. Neu ac ategu geiriau'r Archdderwydd fe ellid dweud mai dim ond 7 gwaith mewn tri chwarter canrif ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1937, yr ataliwyd y wobr.

Mae'n bwysicach gwarchod safonau na chynal defod meddai'r Archdderwydd,

ac fe fyddai pawb yn cytuno. Ond, ac arall eirio Peilat 'Beth yw safon? Tydi safonau pawb ddim yr un fath. Tri o feirniaid uchel eu parch benderfynodd nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth ddoe. Ond, mae 'na bosibilrwydd, petai tri beirniad arall wedi edrych ar yr un deunydd- y byddai teilyngdod.

Beth yw safon?  Ac onid ydi hi'n wir fod na nofelau, a straeon byrion, awdlau, a phryddestau wedi cael eu gwobrwyo gan feirniad uchel eu parch, a ninnau, ar ôl eu darllen yn y cyfansoddiadau, neu eu prynnu ar ôl eu cyhoeddi, wedi gofyn,  a oedda nhw'n deilwng o un o brif wobrau'r  Eisteddfod.

Be' 'di safon? Wel, gan fy mod i'n awdurdod ar fwyd Indiaidd ( neu Bangladeshi i fod yn fanwl gywir) wedi ei fwyta'n rheolaidd ers dyddiau coleg, mi fedrai ddeud, heb flewyn ar fy nhafod, na darn o bopadom rhwng fy nanadd fod y bwyd Indiaidd ar faes y 'steddfod yn hynod o safonol, a blasus.  Triwch y cyri kwrma, efo baji nionyn, ychydig o jytni a bara Nan. Mmmm! Pryd o fwyd sydd yn haeddu medal!

Tîm GB yn yr EG
Ddoe ar y llwyfan fe grewyd hanes. Am y tro cyntaf erioed fe gyflwynwyd Tîm G.B. i'r gynuilleidfa, ac fe anrhydeddwyd yr aelod mwyaf blaenllaw o'r tîm hwnnw efo meda.

Meistr y ddefod oedd R. Alun Evans. Gŵr sy'n feistr ar bob defod mae o'n ei chyflwyno yn feistrolgar, llyfn, a llawn dychymyg. Fe gyfeiriodd at tîm GB cyn dechrau'r seremoni gan awgrymmu nad oedd rhaid i ni droi ein golygon i gyfeiriad Llundain er mwyn gweld ymdrech yn cael ei wobrwyo.

"Ar y llwyfan heddiw" medda fo " mae na unigolyn sydd  wedi  gwneud cyfraniad gwirfoddol yn ei hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc ac mae hi yn GB, Great Britton" Cyfeirio roedd Alun ar Eirlys Britton anrhydeddwyd gyda medal Syr T.H.Parry Williams, am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd yn enwedig ym myd dawnsio gwerin.

Hi oedd un o brif sylfanwyr Dawnswyr Nantgarw, neu tim GB fel byddan nhw'n cael eu galw o hyn ymlaen, ac fe ddaeth y dawnswyr i'r llwyfan i gyfarch Eirlys.  Moment i'w thrysori , mewn seremoni gofiadwy.

Gobeithio y cawn ni ddeud yr un peth ar ol y seremoni'r prynhawn yma, Seremoni'r  Fedal Ryddiaeth. Fe ges i gyfle i gael golwg ar y fedal, ac un hardd ydi hi hefyd. Ar un ochor maen na lun merch ifanc yn cyrychioli'r awen, ac ar yr ochor arall, teitlau rhai o gyfryfolau pwysica'r iaith Gymraeg, Y Beibl, y Mabinogi, Llyfr y Tri Aderyn, Y Bardd Cwsg, a Rhys Lewis.

Sy'n ein harwain ni'n daclus at  Daniel Owen, a chyfle i longyfarch Robat Gruffudd  gwasg y Lolfa ar ei lwyddiant ddoe yn enill gwobr goffa Daniel Owen. Gyda llaw, mae na dipyn o son wedi bod o'r llwyfan, a sylw wedi cael ei roi i'r cwmniausy'n noddi'r gwahanol gystadleuthau,ond does na ddim gwirionedd yn y si fod Cwmni Costa, yn mynd i noddi'r Daniel Owen y flwyddyn nesa os wnaiff y Steddfod newid enw'r gystadleuaeth i "Gwobr Goffi Daniel Owen".

Hunlle Eisteddfodol
Neithiwr ar ôl bod yn gwylio cyfuniad o gystadleuthau eisteddfodol ar raglen y  BBC, O'r Maes, a'r  Mabolgampau,  O'r Stadium. Yn y  freuddwyd 'roeddwn i   yn y Stadium Olympaidd yn eistedd wrth ochor  y bardd  T. Rowland Hughes (oedd hefyd ar un adeg  yn gynhyrchydd radio). Roedd y stadium yn wag. Dim ond y fo, mewn trac siwt binc, a fi, a'r cystadleuwyr oedd ynno.

'Be 'da chi'n 'neud yn famma?' medda fi

'O' medda fo 'Wedi dwad yma am dipyn o ysbrydoliaeth. Wedi meddwl  sgwennu cerdd am ras rhwng Sammy Rhos Banc, a Ned Ty Glas.'

'Da chi'n cael hwyl, arni hi?'

'Wel' medda fo, mae'r linell gynta yn 'i  lle 'Dau yn unig oedd yn y ras'

Ar  hynny dyma swn fanffer yn llenw'r lle. A gwr ifanc yn camu ar y podium ac yn cael ei arwisgo efo'r fedal aur, neb llai na Dai Green.

'Mr Hughes' medda fi, gan droi at Rowland oedd yn dal i 'sgwennu, 'Sut ma'r  Cymro wedi cal medal aur am redeg y ras pedwar can medr dros y clwydi?'

'Wel' meddai Rowland  'mae'n amlwg tydi DAI YN UNIG OEDD YN Y RAS'

Fel y gwynt ac yn gynta'
Oherwydd mod i wedi enill ras ŵy a llwy ym Mabolgampau Ysgol British Llangefni ym 1949, roeddwn i'n ddigon haerllug i gredu y gallwn i leisio fy marn am Usain Bolt. A dyna pam y gwnes i drydar neithiwr y byddai'r disgybl, Yohan Blake, yn trechu'r Meistr. O chwi o ychydig ffydd!

Mewn llai o amser (9.63 eiliad) na gymerodd hi i mi drydar na fyddai'r daranfollt o Jamaica yn ennill y ras - 'roedd o wedi gwneud! Coroner Bolt yn ben, a pheidied neb a gofyn i mi ar y Maes heddiw broffwydo a fydd na goroni a'i  peidio. Dwi ddim yn gwybod, ac yn bwysicach, dwi ddim eisiau gwybod, nac yn cael gwybod nes bydd yr Archdderwydd yn cyhoeddi ffug-enw.

Ar y llaw arall mi fedrai ddeud wrthach chi beth ddigwyddodd ym 1968 pan oedd yr Eisteddfod ym Mro Morgannwg diwetha'. 'Roedd na deilyngdod - yn dilyn shambls! Roedd Waldo o blaid coroni Haydn Lewis, Tomos Parry am roi'r goron ar ben Huw Llywelyn Williams ac Euros Bowen am roi'r wobr i Dafydd Rowlands.

Felly beth ddigwyddodd? Wel, ymhell cyn dyddiau Chris Tarrant a "Who Wants to be a crowned bard" - fe ffoniwyd ffrind, sef Alun Llywelyn-Williams, ac fe gytunodd o efo Waldo.

'Ew' medda chi' efallai na tydi Gwynfryn dim yn gwybod unrhywbeth am athletau, ond mae o'n wybodus iawn am hanes yr Eisteddfod.' Nac  ydw wir. Dwi'n ffan mawr o'r safle Canrif o Brifwyl, lle mae gwybodaeth am Eisteddfodau'r gorffennol wedi ei hel a'i ddidoli gan yr Olympian llenyddol - Alan Llwyd.

Fodd bynnag os da chi am wybodaeth am y cystadlu heddiw, ac am weld seremoni'r coroni prynhawn ma (gobeithio!) ewch i'n safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.

Pytiau Eisteddfodol Sul
Mewn yn gynnar erbyn tua 7 30. Glyn Evans (gweler ei flog dyddiol ar bbc.co.uk/eisteddfod), i fewn eisoes. Wyddwn i ddim nes i mi ddarllen y blog, mai ystyr Llandw ydi Llan-Duw. Diolch Glyn. Ond tydio ddim yn olrhain tarddiad Llandough.

Felly gadewch i mi eich goleuo chi. Pentre bychan iawn oedd Llandough ers talwm, lle roedd pobol yn byw bywyd hamddenol. Byth yn brysio i unman. Pawb yn cerdded yn ‘dough, dough.’

Hywel yn gweithio'n galed yn yr Eisteddfod!

’Rol a chig moch ym mwyty Bethan am 8. 9.30, dechrau paratoi i sŵn canu emynau o’r pafiliwn - oedfa’r Eisteddfod dan arweiniad y Parchedig Kevin Davies.

Yr emyn oedd - Bydd yn ŵrol paid a llithro - cyngor i unrhyw un sy’n ceisio ochorgamu pyllau mwd sydd yma ac acw ar y maes. Ond fe ddaeth y Nefol wynt, a’r haul cynnes i sychu’r mwd sychu’r maes. Falle fod Kevin Davies wedi gael gair bach tawel efo Rhywun.

Thema’r oedfa oedd ‘Cario’r Fflam’ a neithiwr roedd Mo Farrar yn y stadium Olympaidd yn rhedeg ac yn ennill y ras 10,000 medr. Sgwn i be’ fasa thema ei bregeth o i redwyr ifanc y dyfodol. Geiriau Paul, ella?:
‘Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a redais yr yrfa, mi a gedwais y ffydd.’

Gyda llaw, hoffais y pennawd uwchben llun o’r rhedwr yn y papur bore ‘ma, a fynta yn hedfan o amgylch y trac am y tro ola. Dau air yn unig - FLY MO!

Ar fy ffordd i’r stiwdio ar gyfer tair awr o ddarlledu fe ddaeth rhywun ataf a chynnig bisced i mi efo darn tena o gaws llwydaidd yr olwg, a thaflen gyda holl hanes Cymdeithas i’r rhai hynny sydd am fyw bywyd y figan. Wel, pawb at y peth y bo, ond ar ol bwyta’r caws - figan ddim diddordeb. A beth bynnag roeddwn i newydd gladdu rol cig eidion.

P'nawn ma fe fydd Rhiannon a finnau yn eich cwmni chi yn cael mwynhau mwy o sŵn y bandiau pres, sain y corau, yr unawdwyr dan 12, y llefarwyr unigol a’r grwpiau offerynol ar Radio Cymru, a chofiwch fod na lif cyson o gystadlu a gwybodaeth ar ein safle ni bbc.co.uk/eisteddfod.

Hywel Gwynfryn yn cyrraedd yr Eisteddfod
Ar y maes yn gynnar, bore dydd Gwener tua hanner awr wedi saith a chael cwmni Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith Dylan Jones ar ei ffordd I'r cae. Dangos fy nhocyn yn y brif fynedfa. Y dyn ddim yn hapus. "Ond mae o'n deud  dydd Sadwrn arno fo" 'Ydi" medda'r dyn "Ond nid dydd Sadwrn yma-dydd Sadwrn nesa!" Wrth lwc y Penbandit  tocynyddol ydi brawd Meical Pofi, aelod anrhydeddus iawn o'r clwb cyri, ynghyd ac Alwyn Humphreys, Rhisart Arwel, Geraint Jones a finnau, felly er nad oedd  tocyn gŵr y Tikka, yn iawn, fe ges i faddeuant a mewn â mi.

Y tîm yn cyfarfod am 10.30. Rhiannon Lewis, Nia Lloyd Jones a Stifyn Parri. Mae Stifyn wedi bygwth cerdded o gwmpas y maes mewn pâr o drôns nofio gan ei fod o wedi gwirioni ar y nofio yn y Mabolgampau Olympaidd! Fe fydd y blog yma yn eich rhybuddio lle bydd Stifyn yn ei Speedos, er mwyn i chi fedru osgoi yr ardal honno . Rhiannon wedi cael persawr newydd yn arbennig ar gyfer yr ŵyl, naill ai Tregaron Nights neu Silian Sensation - 'doedd hi ddim yn cofio. P'nawn o wrando ar y bandiau a'r corau. Un band yn cael ei arwain  gan gyfrifydd - addas iawn gan mai band pres oedd o.

Cyfrol Eisteddfodol wedi dwad i law- cyfrol o farddoniaeth, Cyril Jones - Eco'r Gweld. Mae o'n brifardd coronog ac yn un o feirniaid y Goron eleni.  Yn addas iawn, gan ein bod ni ym Morgannwg, mae o wedi cynnwys nifer o dribannau - un i Shane Williams sy'n cael ei urddo i'r Orsedd:

SHANE

I'r chwith, I'r dde, mae'n gwibio

Fan hyn, fan draw, mae'n ffugio

Ond Aman bach a fydd yn ben

A'r linell wen o dano.

Cofiwch os yda chi am wylio'r holl berfformiadau o'r eisteddfod ewch i bbc.co.uk/eisteddfod

Yn Y Fro
Cymdogaeth fwyn i'ch swyno,

Â'i dirfawr hud ydyw'r Fro.

Son y mae Islwyn Jones, yn ei gywydd Croeso, am Fro Morgannwg wrth gwrs, cartre'r Eisteddfod eleni, ac fe fydda i yn mynd â chi o amgylch y fro i gyfarfod rhai o bobol yr ardal, am un o'r gloch bnawn Gwener, mewn rhaglen arbennig sy'n dwyn y teitl  Yn Y Fro ar Radio Cymru.

Y tro olaf i'r eisteddfod ymweld â'r ardal oedd ym 1968, pan gefais i y fraint o holi mwnci!

Gwyliwch y fideo

A chyn i chi ddeud 'Mae'n siwr fod yr atebion yn gwneud mwy o synnwyr na'r cwestiynau,' alla i eich sicrhau chi mod i'n gwybod bron cymaint â  fo am y gynghanedd.

Eleni eto fe fydda i a Rhiannon Lewis yn gwylio'r cystadlu, Nia Lloyd Jones yng nghefn y pafiliwn yn holi'r cystadleuwyr, a Stifyn Parri yn crwydro'r maes yn busnesu ym mywydau'r eisteddfodwyr.

Fe fydd y cyfan i'w glywed ar Radio Cymru, a chofiwch os oes raid i chi adael y tŷ- mi fyddwn ni'n disgwyl amdanoch chi yn y car.

Os fedrwch chi ymuno â ni ar y Maes, wel, gorau oll, ond os mai mewn cadair esmwyth adre, y byddwch chi, yna trwy gyfrwng y cyfrwng, fe fydd Radio Cymru yn gwmni i chi, yn 'hudolus wlad Iolo'.

Tail Ar 'Sgidia'r City Slicker
'Dwi 'di cael fy ngalw'n bob math o enwau  ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys 'city slicker'. Cyfeiriad at y ffaith fy mod i wedi cael fy ngeni mewn tref (Llangefn) ac wedi treulio y rhan fwyaf o fy mywyd mewn dinas (Caerdydd).

Meical  Pofi, a boerodd y disgrifiad i'm cyfeiriad, rhywybryd yn y saithdegau pan oeddem ni'n mwynhau dadl gyfeillgar ar y testun - Ydi bywyd y wlad yn well na bywyd y dref.  Er fod Meic, fel hogyn o gefn gwlad Cymru  yn amddiffyn y  bywyd gwledig, wrth gwrs, ac yn dweud yn glir ac yn groyw, nad oedd dinas barhaus iddo yng Nghaerdydd, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae o 'yma o hyd' yn Lywydd  Anrhydeddus Cangen Caerdydd o Gymdeithas y City Slickers.

A beth amdana' i ? Wel,  ers i mi ddechrau cwrydro Cymru, rhyw bum mlynedd yn ôl, 'dwi wedi dod i adnabod ardaloedd amaethyddol Cymru yn well, a chael cwmni difyr y gymdeithas wledig, gartrefol groesawgar?

A dyna pam 'dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at yr wythnos nesa', pan fydd Radio Cymru yn darlledu o'r  Sioe Frenhinol Amaethyddol.

Fe glywch chi fref y ddafad a chlochdar ambell i geilog, ar raglenni  Nia, Geraint Lloyd, Eleri Sion a Blas.

Yn ogystal â sgwrsio efo ffermwyr o bob rhan o Gymru, 'dwi'n siwr y byddai hefyd yn cael cwmni 'city slicker neu ddau, fydd wedi dwad i'r sioe i fwynhau eu hunain am y diwrnod.

Rhwng Y Lleni Ger Y Traeth...
Hei Ho Hei Di Ho,
Hywel Gwynfryn sy’ ‘ma ‘to.
Ddoe fe deithiais i Sir Benfro,
Lle roedd sipsiwn wedi campo.
Ifan Evans a Shan Cothi,
Efo’i phersonoliaeth ffrothi!
Ar ôl cyrraedd, yn ddioed
Cefais sgwrs ‘da Geraint Lloyd.
(Pwy ddudodd ei bod hi’n anodd ‘sgwennu barddonaieth safonol!)

Erbyn neithiwr, roedd y criw teledu, Ifan a Shan, a’r perfformwyr wedi cyraedd pentref glan môr Tudraeth, ac roedd yr olygfa ar draws traeth y Parrog i gyfeiriad yr Iwerddon yn odidog.

Ar ôl sgwrs efo Geraint yn y prynhawn , sgwrs arall ar raglen Eleri Sion efo dwy oedd wedi ‘u gwisgo fel dwy sipsi - Lowri Evans, a Delyth Wyn o’r grwp Radwm, ac yn nes ymlaen, fe fuon nhw’n canu i’r gynuilleidfa sydd wedi bod yn dilyn taith y Sipsi bob nos ar S4C.

Ac mae’r teithio’n parhau. Yr wythnos nesa’ fe fydda i mewn ‘cwr o fynydd’ ac wedi gosod fy mhabell ar faes Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Fe gewch chi’r hanes lliwgar, swnllyd, cyffrous, cerddorol o’r maes yn ddyddiol ar raglenni Nia a Geraint Lloyd.

A chofiwch os ‘da chi am sylw i unrhyw eisteddfod, gwyl, ffair neu garnifal, cysylltwch efo fi drwy ebost hywel@bbc.co.uk

Atgyfodi Carnifal Llanfairpwll
Sadwrn diwetha’ roeddwn i’n cael fy moddi gan swn y band Samba, yn arwain gorymdaith liwgar carnifal Llanfairpwll drwy’r pentre.

Diolch i Clare a’i ffrindiau am ail sefydlu’r carnifal ar ôl bwlch o ugain mlynedd a mwy. Ac wrth edrych ar y loriau yn yr orymdaith wedi eu gwisgo efo rhubanau, a blodau papur o bob lliw, fedrwn i ddim llai na chofio Carnifal Llangefni 1952, a finna’n ddeg oed wedi fy ngwisgo fel ‘page boy’ yn fy nhillad felfed. A pheth bach del oeddwn i hefyd! Be’ ddigwyddodd, sgwn i?

Gyda llaw, donyts carnifal Llanfairpwll oedd y donyts mwya blasus i mi eu bwyta ers Sioe Llanelwedd llynedd! Gyda llaw, fe fydd Radio Cymru yn fanno hefyd, ond cyn hynny fe fyddai’n ymweld ac Eisteddfod Llangollen yr wythnos nesa, a fory fe fydda i draw yn Nhrefdraeth, yn mwynhau cwmni Ifan a Sian, y sipswn a’r varda.

Fe gewch chi’r hanes diweddara ar raglen Geraint Lloyd yn y pnawn ac yna ar raglen Eleri Siôn gyda’r nos. A chofiwch fod y gyfres yn parahau ar S4C am hanner awr wedi saith. Os yda chi’n trefnu, gwyl, neu sioe ac am gael hysbys yn rhad ac am ddim, cysylltwch efo mi hywel@bbc.co.uk.

Ŵyn bach Llanwddyn
Fe dreuliais i fore byth gofiadwy yn ddiweddar yn Llanwddyn, ar lan llyn Efyrnwy.

Ar fferm yr oeddwn i ar gyrrion y pentre, fferm sy’n perthyn i’r Gymdeithas Gwarchod Adar, lle mae Jan a’i gŵr yn croesawu plant y pentrefi cyfagos i dreulio amser efo’r anifeiliaid.

Fe ges i wahoddiad i fynd draw.oherwydd ei bod hi’n dymor wyna, ac yn wir fel y cewch chi glywed ar raglen Geraint Lloyd, bnawn fory, fe fues a phlant ysgol Pennant, yn ddigon ffodus i weld oen bach yn cael ei eni.

Beth sy’n digwydd yn eich ardal chi? Anfonwch ebost at hywel@bbc.co.uk ac fe fydda i’n falch o adael i Gymru gyfan wybod.

Y Lleol a'r Cenedlaethol
Ydych chi wedi clywed am orsafoedd radio Tudno Fm, GTFm, a Bro Radio?  Gorsafoedd radio cymunedol ydyn nhw, ac yn ystod y flwyddyn yma fe fydd BBC Cymru, yn gweithio'n agos efo'r gorsafoedd yma.

Yn ddiweddar fe fues i i fyny yn y Gogledd yn sgwrsio efo Alwyn Samuel, ddarlithydd yn y cyfryngau wrth ei alwedigaeth, ond mae o hefyd yn rhoi ei amser hamdden yn rhad ac am ddim i gyflwyno rhaglenni Cymraeg ar Tudno FM, sy'n darlledu i ddalgylch o bymtheng milltir o amgylch tre Llandudno.

Wedyn fe es i am dro i lawr yr arfordir i Brestatyn i gyfarfod Nia Lloyd Williams, cyflwynydd ar  Point FM. Ac ar ôl sgwrs a phaned yn y stiwdio fe aethom draw i Ruthun i gyfarfod Robat Arwyn, fydd yn un o westeion Nia, yn y dyfodol agos.

Fe fydda i hefyd yn ymweld â gorsafoedd yn y de, ac eisoes mae 'na daith wedi ei threfnu yng nghwmni Eifion Lloyd Jones, cyflwynydd gwasanaeth radio cymunedol Blaenau Gwent i Amgueddfa  yn yr ardal sy'n adrodd hanes y Siartwyr. Dyna i chi ragflas yn unig o'r hyn sydd i ddod.

Fe gewch chi flasu mwy, a chlywed profiadau cyflwynwyr y gorsafoedd radio Cymunedol led Cymru ar raglen radio Geraint  Lloyd yn ystod yr wythnosau nesa.

Pan o'n i'n rhodio mynwent eglwys.......

A chredwch chi fi, mae yna gannoedd o bobl drwy Gymru wrth eu bodd ym mynwentau, yn ôl yr ymateb i'r straeon am fynwentydd diddorol Cymru ar raglen Nia. Ac os wyddoch chi am stori fynwent ddiddorol cysylltwch efo hywel@bbc.co.uk ac fe wna i'n siwr fod y stori yn cael ei chlywed ar raglen Nia. Yn ddiweddar fe ges i gwmni Cerwyn Davies, ym mynwent Bethel, Mynachgloddu, lle mae Twm Carnabwth, un o arweinwyr terfysg Beca wedi ei gladdu.

Ac yng Nghwm yr Eglwys, fe adroddodd Rex Harries, hanes y noson y chwalwyd muriau eglwys, pentref bychan Cwm yr Eglwys, dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Mae o a chyfeillion wedi mynd ati dros y blynyddoedd i ofalu am y fynwent , ac wedi cofnodi'r manylion sydd ar bob un garreg fedd. Dyna i chi lafur cariad.

Cofiwch os oes 'na unrhyw beth diddorol yn digwydd yn eich ardal chi anfonwch e-bost at hywel@bbc.co.uk.

Gwlad o hud a lledrith
'Doedd na ddim niwl ar fryniau Dyfed o gwbwl yr wythnos hon, dim ond yr haul yn cynhesu'r  cerrig hynafol yn ardal Mynachlog Ddu, lle bues i'n siarad efo Cerwyn Davies ym mynwent Bethel  ar lan bedd Thomas Price- gŵr oedd yn hapus iawn i  fynd o gwmpas y wlad wedi ei wisgo fel merch - un o ferched Becca, ac 'arweinydd gwerin plwy 'Mynachglogddu ' yn ôl Tecwyn Ifan.

Mae Cerwyn  yn  hyddysg iawn yn hanes terfysg Becca yn y cylch ac yn hapus i arddel cysylltiad teuluol  efo Twm Carnabwth. Yn wir, fe fedrwn i daeru fod ei lygaid yn fflachio wth son amdano.

O Fynachlog Ddu i Nanhyfer, lle ces i sgwrs o dan yr ywen waedlyd gyda'g Alun Ifans, cyn brifathro ymroddedig Ysgol Casmael.   Fe fudd o'n  adordd hanes  Sant Brynach a John Jones, y gŵr fu'n gyfrifol am gyfieithu'r Mabinogi i Charlotte Guest.

Galw heibio Cwmyreglwys wedyn a chyfarfod Rex Harris sydd wedi ysgrifennu llyfr am hanes yr eglwys ddinistrwyd gan y storm a fu'n gyfrifol am longddryliio y Royal Charter oddiar arfordir Môn, yr un noson - Hydref 26ain 1859.

Fe fydd hanes Twm Carnabwth, a'r merched, Sant Brynach a'r gôg, a Chwmyreglwys  a'r storm i'w clywed ar raglen Nia yn ystod yr wythnosau nesa.

B B C - Bwyta Brecwast Cynnar
Chwarter i wyth y bore, a dyna lle 'roeddwn i  yn dosbarthu sudd oren, a thost iddisgyblion Ysgol Banc y Felin, ar gyrion Caerfyrddin.

Mae'r  Clwb Brecwast  yn cynnig bwyd  i blant sy'n gorfod dod yn gynnar i'r ysgol oherwydd fod ei rhieni  yn teithio i'w gwaith, ac mae'r Ysgol wedi ennill  tystysgrif  am y Clwb Brecwast gorau yn yr ardal.   Rhywbeth y mae'r  Penaeth  Gwyneth  Stephens yn ymfalchio ynddo.

O gwmpas yr ystafell frecwast  mae na luniau o gyn  ddisgyblion enwog Banc y  Felin.   Mae'n rhyfeddol bod ysgol cymharol fechan  wedi magu cymaint o chwaraewyr rygbi rhyngwladol  -  Lynn 'Cowboi' Davies chwaraeod i Gymru yn y pumdegau, Delme Thomas,  Jonathan Davies, a  Mike Phillips.

Yn ôl sawl sgwrs   gefais i gyda rhai o'r bechgyn,  mae na fwy nag un yn gobeithio  fod bwyta brecwast da yn sicrhau  y bydda'  nhw yn efelychu campau eu harwyr ar y maes rygbi  rhyw ddydd.

Wedi  galw heibio i Ysbyty Glangwili, lle mae'r gwasaneth radio yn dathlu ei benblwydd eleni yn ddeugain oed, fe es i allan am dro i gefn gwlad Sir Gaerfyrddin i fynwenta, yng nghmwni Towyn Jones.  A chael awr ddifyr yn ei gwmni ym mynwent eglwys Penboyr.

Cofiwch fod Nia Roberts ynawyddus i glywed gennych chi, os oes na fynwent ddiddorol yn eich ardal chi.

Fe ddaeth fy nhaith i ben yn nhre Caerfyrddon, a chartre enwog Theatr  y Lyric, lle 'roedd TheatrNa Nog, yn perfformio rhai o chwedlau Aesop, ac ar ôl cael sgwrs efo'r actorion , fe fues i'n crwydro'r  theatr yng nghmni Nick Stevenson. Fe wariwyd dwy filiwn o bunnau ar y theatr yn ddiweddar ac mae hyn yn golygu y bydd cynyrchiadau cyffrous iawn i'w gweld  ar lwyfan y Lyric yn y dyfodol agos.

Gwefan Theatrau Sir Gâr