Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn dweud wrthych pa ddata personol mae’r BBC yn ei gasglu amdanoch chi, sut rydym yn ei ddefnyddio a’ch hawliau cyfreithiol. Mae data personol yn golygu unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi, fel eich enw, eich cyfeiriad neu eich llun.
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych sut rydym yn casglu ac yn defnyddio eich data personol pan fyddwch yn llenwi ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer Diwrnod Blasu ‘Get In’. Bydd yn egluro sut rydym yn prosesu eich data yn unol â chyfraith diogelu data.
Pam ydyn ni’n gwneud hyn a sut gallwch chi gymryd rhan?
Bydd tîm Gyrfaoedd Cynnar y BBC yn cynnal cyfres o Ddiwrnodau Blasu Gwaith yn lleoliadau’r BBC ar draws y DU. Mae’r Diwrnodau Blasu ‘Get In’ hyn yn dangos i ymgeiswyr pa gyfleoedd sydd ar gael yn y BBC. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio gyda ni, byddwn yn dangos y camau nesaf sydd eu hangen arnoch i gael swydd yn y BBC.
Mae Diwrnodau Blasu yn rhoi cyfle i chi ymweld â’n stiwdios lleol am y diwrnod. Cewch ragor o wybodaeth am y prentisiaethau sydd ar gael yn y BBC a phrofiad o sut beth yw gweithio yn y diwydiant cyfryngau.
Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau hyn ar gyfer myfyrwyr 16-18 oed, ond byddwn hefyd yn cynnal Diwrnodau Blasu ar gyfer pobl ifanc dros 18 oed sydd wedi gorffen addysg orfodol, y rheini sy’n newid gyrfa a grwpiau ysgol.
I’n helpu i benderfynu ble i gynnal y Diwrnodau Blasu newydd, ac i gyflymu’r broses ymgeisio, gallwch gofrestru eich diddordeb i fynd i Ddiwrnod Blasu yn lleoliad y BBC sydd agosaf atoch chi neu sydd hawsaf i’w gyrraedd. I wneud hyn, bydd angen i chi lenwi ffurflen mynegi diddordeb, a rhoi ychydig o fanylion cyswllt. Pan fyddwn wedi cadarnhau’r lleoliadau a’r dyddiadau, byddwn yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen gais ar wahân. I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, ewch i Gwybodaeth am Ddiwrnodau Blasu ‘Get In’.
Pa ddata personol fydd y BBC yn ei gasglu a sut byddwn yn ei ddefnyddio?
Bydd y BBC yn casglu ac yn prosesu eich data personol at ddibenion darparu diweddariadau a chyhoeddiadau am ein Diwrnodau Blasu ‘Get In’.
Byddwn yn casglu eich data personol drwy lwyfan ar-lein a ddefnyddir gan y BBC.
Data personol
Byddwn yn casglu’r data personol canlynol amdanoch chi drwy ein ffurflen ar-lein:
- Eich enw
- Eich ystod oedran (os yw’n berthnasol)
- Eich cyfeiriad e-bost
Os ydych chi'n athro sy'n mynegi diddordeb yn ein Sesiynau Blasu ‘Get In’ ar ran eich dosbarth, byddwn hefyd yn gofyn i chi gadarnhau:
- Enw a chyfeiriad eich ysgol
- Rhif cyswllt
Pwy sy’n gofalu am eich data?
Y BBC yw rheolwr data eich data personol. Rheolwr data sy’n gyfrifol am y data personol sy’n cael ei gasglu amdanoch chi.
Mae’r BBC wedi penodi Swyddog Diogelu Data.Mae ef yn gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio eich data personol yn unol â’r gyfraith diogelu data. Os ydych chi eisiau gofyn unrhyw gwestiynau am y ffordd mae’r BBC yn defnyddio eich data personol, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data: DataProtection.Officer@bbc.co.uk.
Y sail gyfreithlon dros brosesu eich data personol
Mae’n rhaid i’r BBC ddilyn y gyfraith diogelu data pan fyddwn yn casglu ac yn defnyddio eich data personol. Mae cyfraith diogelu data yn dweud bod yn rhaid i ni gael ‘sail gyfreithlon’ dros ddefnyddio eich data personol. Cydsyniad yw’r sail gyfreithiol y mae’r BBC yn ei defnyddio i brosesu eich data personol.
Dim ond os ydych chi wedi rhoi eich caniatâd y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch Diwrnodau Blasu yn eich ardal. Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar gyfer cael newyddion am ein Diwrnodau Blasu ‘Get In’ ar unrhyw adeg drwy anfon e-bost i bbcgetin@bbc.co.uk.
A fydd eich data personol yn cael ei rannu?
Os bydd yn rhaid i ni rannu eich gwybodaeth â phobl eraill, ni fyddwn ond yn ei rhannu pan fydd hynny’n ofynnol i ni allu gwneud ein gwaith, neu pan fydd y gyfraith yn dweud bod yn rhaid i ni wneud hynny. Pan fydd eich data personol yn cael ei rannu â rhywun arall, mae’n rhaid iddyn nhw ei gadw’n ddiogel a’i ddefnyddio mewn ffordd lle mae’r BBC yn dweud wrthyn nhw y gallan nhw ei ddefnyddio.
Am ba hyd fyddwn ni’n cadw eich data personol?
Bydd y BBC yn cadw eich data personol yn unol ag Amserlen Cadw Corfforaethol y BBC.
Bydd eich data personol yn cael ei storio yn y DU a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Beth yw eich hawliau?
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawl i'r canlynol:
- Cael gwybod sut rydym yn defnyddio eich data personol
- Gofyn am gael gweld y data personol sydd gennym
- Gofyn i ni newid data personol sy’n anghywir yn eich barn chi
- Gofyn i ni dynnu data personol pan nad oes ei angen mwyach
- Gofyn i ni ddefnyddio eich data personol mewn ffyrdd penodol yn unig
- Dweud wrthym nad ydych chi am i’ch data personol gael ei brosesu
Rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data.
Rhagor o wybodaeth
Gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data.
Os oes gennych gwestiynau neu os ydych chi am gael gwybod mwy am eich hawliau, ewch i Bolisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.
Os ydych yn poeni am y ffordd mae'r BBC wedi delio â’ch data personol, gallwch gwyno wrth yr awdurdod goruchwylio yn y DU, sef Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).
Diweddaru'r hysbysiad preifatrwydd hwn
Byddwn yn diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn os bydd y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol yn newid yn sylweddol.